Moeseg, Moeseg Ymchwil ac Uniondeb
Ym Mhrifysgol 新香港六合彩开奖结果, un o鈥檔 hegwyddorion arweiniol yw gweithredu gyda gonestrwydd a thryloywder a byddwn yn ceisio cydweithio ym mhopeth a wnawn. Fel rhan o hyn byddwn yn hwylusotwf deallusol trwy ryddid academaidd, mynegiant creadigol a chyfathrebu gwirionedd, gwybodaeth, ddatblygiad cymdeithasol a moesol. has context menu
Mae Polisi Uniondeb Ymchwil y Brifysgol i’w weld ar y dudalen Dogfennau Llywodraethol a Pholis茂au’r Brifysgol
Mae datganiad blynyddol y Brifysgol ar uniondeb ymchwil i’w weld ar y ddolen hon.
Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil Universities UK
Mae'r Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd cynnal y safonau uchaf o ran uniondeb ymchwil ac felly mae'n cydymffurfio 芒 . Mae'r concordat hwn yn ceisio darparu fframwaith cenedlaethol cynhwysfawr ar gyfer ymddygiad ymchwil da a'i lywodraethiant.
Fel cefnogwyr y concordat i gefnogi uniondeb ymchwil, rydym wedi ymrwymo i鈥檙 canlynol:
- cynnal y safonau uchaf o drylwyredd ac uniondeb ym mhob agwedd ar ymchwil
- sicrhau bod ymchwil yn cael ei gynnal yn unol 芒 fframweithiau, rhwymedigaethau a safonau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol priodol
- cefnogi amgylchedd ymchwil sydd wedi鈥檌 ategu gan ddiwylliant o uniondeb ac wedi鈥檌 seilio ar lywodraethu da, arferion gorau a chefnogaeth ar gyfer datblygu ymchwilwyr
- defnyddio prosesau tryloyw, cadarn a theg i ymdrin 芒 honiadau o gamymddwyn ymchwil pe baent yn codi
- cydweithio i gryfhau uniondeb ymchwil ac i adolygu cynnydd yn rheolaidd ac yn agored.
Gellir gweld datganiad blynyddol y Brifysgol ar uniondeb ymchwil ar y ddolen hon.
Cod Ymarfer Uniondeb Academaidd mewn Ymchwil
Prif gyfrwng y Brifysgol ar gyfer rheoli cydymffurfiaeth academiadd yw ei Gweithdrefn Uniondeb Academaidd.
Mae'r Concordat yn mynnu bod sawl deiliad swydd allweddol yn cael eu henwi mewn unrhyw bolis茂au neu godau ymarfer lleol. Ym Mangor yr unigolion a enwir yw:
Person a Enwir: Gwenan Hine - Ysgrifennydd Prifysgol
Yn eiledol, i weithredu yn absenoldeb y Person a Enwir: Colin Ridyard - Uwch Swyddog Llywodraethu a Pholisi Ymchwil
Unigolyn Enwebedig yr Adran Berson茅l: Tracy Hibbert - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Unigolyn Enwebedig Cyllid: Carl Shipton - Dirprwy Gyfarwyddwr (Cyllid) - Swyddfa Gyllid
Polisi Moeseg Ymchwil
Yn ogystal 芒 rheoli materion uniondeb ymchwil mae gan y Brifysgol hefyd strwythurau, prosesau a gweithdrefnau rheoli ffurfiol sy'n ymwneud 芒 materion moesegol eraill ym maes ymchwil.
Mae'r rhain wedi'u nodi ym Mholisi Moeseg Ymchwil y Brifysgol sy'n ymwneud 芒 materion megis Cyfranogwyr Dynol, Meinwe Ddynol, Plant ac Oedolion Bregus, Moeseg Anifeiliaid ac ati.
Mae Prifysgol 新香港六合彩开奖结果 wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol uchel ym mhob agwedd ar addysgu, dysgu ac ymchwil.
I gael rhagor o wybodaeth am foeseg, cysylltwch 芒 Dr Colin Ridyard, Uwch Swyddog Llywodraethu a Pholisi Ymchwil: mhsa08@bangor.ac.uk
Mae鈥檙 Polisi Moeseg Ymchwil, y Broses Adolygu Moesegol, y Fframwaith Polisi Moesegol, y Weithdrefn ar gyfer Cymeradwyo a Chofrestru Projectau Ymchwil Sensitif i鈥檞 gweld ar dudalen Dogfennau Llywodraethol a Pholis茂au'r Brifysgol.
Hyfforddiant
Mae deunydd hyfforddi ar gael i bawb ym Mhrifysgol 新香港六合彩开奖结果 ar:
Sylwch: Darperir y deunydd hwn gan Wasg Prifysgol Rhydychen am gyfnod prawf tan fis Mehefin 2025 ac mae ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Mae trafodaethau'n parhau gyda'r Cwmni a phrifysgolion ledled Cymru i rhoi ei fod ar gael yn Gymraeg.