Gallai bywyd fodoli yng nghymylau Iau ond nid yn Fenws
Ers rhai degawdau, mae teithiau i archwilio’r gofod wedi chwilio am dystiolaeth o fywyd y tu hwnt i'r Ddaear lle rydym yn gwybod bod cronfeydd mawr o dd诺r, fel llynnoedd neu gefnforoedd, yn bodoli neu wedi bodoli o'r blaen. Fodd bynnag, mae'r ymchwil newydd yn dangos nad maint y d诺r sy'n bwysig ar gyfer gwneud bywyd yn hyfyw, ond crynodiad effeithiol o foleciwlau d诺r - a elwir yn 'weithgaredd d诺r'.
Daeth yr astudiaeth newydd hefyd i’r casgliad nad yw ymchwil a gyhoeddwyd gan dîm annibynnol o wyddonwyr y llynedd yn honni bod y nwy ffosffin yn awyrgylch Fenws yn dynodi bywyd posibl yng nghymylau asid sylffwrig Venus, yn gredadwy.
Trwy'r project ymchwil arloesol hwn, dyfeisiodd Dr John E. Hallsworth o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn Queen's a'i dîm o gydweithredwyr rhyngwladol ddull i ganfod gweithgaredd d诺r atmosfferau planedau. Gan ddefnyddio eu dull i astudio cymylau asid sylffwrig Fenws, gwelodd yr ymchwilwyr fod y gweithgaredd d诺r fwy na chan gwaith yn is na'r terfyn isaf y gall bywyd fodoli ar y Ddaear.
“Mae amrywiaeth enfawr o ficro-organebau eithafoffil yn byw mewn gwahanol ecosystemau ar y Ddaear sy’n elyniaethus i fywyd,” meddai Dr Olga Golyshina, cyd-awdur yr adroddiad o Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol 新香港六合彩开奖结果, a gyfrannodd at yr astudiaeth hon fel arbenigwr mewn eithafoffilau a hyperacidoffiliau, “Ond ni fyddai unrhyw ficrobau y gwyddom amdanynt ar hyn o bryd yn gallu byw ar amodau tebyg i’r rhai mewn defnynnau asid sylffwrig yng nghymylau Fenws”.
惭补别'谤&苍产蝉辫;测尘肠丑飞颈濒&苍产蝉辫;丑别蹿测诲&苍产蝉辫;测苍&苍产蝉辫;诲补苍驳辞蝉&苍产蝉辫;产辞诲&苍产蝉辫;驳补苍&苍产蝉辫;驳测尘测濒补耻&苍产蝉辫;滨补耻&苍产蝉辫;驳谤测苍辞诲颈补诲&苍产蝉辫;诲颈驳辞苍&苍产蝉辫;耻肠丑别濒&苍产蝉辫;辞&苍产蝉辫;诲诲诺谤,&苍产蝉辫;测苍&苍产蝉辫;辞驳测蝉迟补濒&苍产蝉辫;&补肠颈谤肠;'谤&苍产蝉辫;迟测尘丑别谤别诲诲&苍产蝉辫;肠测飞颈谤,&苍产蝉辫;颈&苍产蝉辫;蹿测飞测诲&苍产蝉辫;蹿辞诲辞濒颈&苍产蝉辫;测苍辞.&苍产蝉辫;颁测丑辞别诲诲飞测诲&苍产蝉辫;测谤&苍产蝉辫;补蝉迟耻诲颈补别迟丑&苍产蝉辫;测苍&苍产蝉辫;Nature Astronomy.
Meddai Dr Hallsworth: "Mae ein hymchwil yn dangos bod gan y cymylau asid sylffwrig yn Fenws rhy ychydig o dd诺r i fywyd egnïol fodoli, yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei wybod am fywyd ar y Ddaear. Rydym hefyd wedi darganfod y gallai amodau d诺r a thymheredd yng nghymylau Iau ganiatáu i fywyd microbaidd fodoli, gan dybio bod gofynion eraill fel maetholion yn bresennol.”
“Mae hwn yn ganfyddiad amserol o ystyried bod NASA a’r ‘European Space Agency’ newydd gyhoeddi tair taith i Fenws yn y blynyddoedd i ddod. Bydd un o'r rhain yn cymryd mesuriadau o awyrgylch Fenws y byddwn yn gallu eu cymharu â'n canfyddiad ni."
Meddai cyd-awdur yr adroddiad, arbenigwr ar ffiseg a bioleg gemegol d诺r, Dr Philip Ball:
“Mae’r chwilio am fywyd allfydol wedi bod ychydig yn or-syml yn yr agwedd at dd诺r. Fel y mae ein gwaith yn dangos, nid yw'n ddigon dweud bod d诺r hylif yn golygu y gellid byw yno. Mae'n rhaid i ni feddwl hefyd am sut mae organebau tebyg i'r Ddaear yn ei ddefnyddio - sy'n dangos bod rhaid i ni ofyn faint o'r d诺r sydd ar gael mewn gwirionedd ar gyfer y defnyddiau biolegol hynny.”
Meddai cyd-awdur yr adroddiad, y gwyddonydd planedau yn NASA, yr Athro Christopher P. McKay:
“Rydym yn canfod gweithgaredd d诺r atmosfferau heb fodel o unrhyw fath, wedi'i seilio yn unig ar arsylwadau uniongyrchol o wasgedd, tymheredd, a chrynodiad d诺r.”
Ychwanegodd Dr Hallsworth: "Rydym hefyd wedi gwneud cyfrifiadau ar gyfer y blaned Mawrth a’r Ddaear ac yn dangos y gellir gwneud y cyfrifiadau hyn ar gyfer planedau y tu allan i gysawd yr haul. Er nad yw ein hymchwil yn honni bod bywyd estron (math microbaidd) yn bodoli ar blanedau eraill yng nghysawd yr haul, mae'n dangos, os yw'r gweithgaredd d诺r ac amodau eraill yn iawn, yna gallai bywyd o'r fath fodoli mewn lleoedd lle nad ydym wedi bod yn chwilio amdano o'r blaen.”
Mae cyd-awduron y papur hwn yn cynnwys y gwyddonydd planedau Christopher P. McKay (NASA Ames Research Center, CA, UDA); arbenigwr cemeg yr awyrgylch Thomas Koop (Prifysgol Bielefeld, yr Almaen); arbenigwr ar ffiseg a bioleg gemegol d诺r Philip Ball (Llundain, y DU); gwyddonydd biomoleciwlaidd Tiffany D. Dallas (Prifysgol Queen’s, Belfast); arbenigwr bioffiseg-bilen lipid Marcus K. Dymond (Prifysgol Brighton, DU); ffisegydd damcaniaethol María-Paz Zorzano (Centro de Astrobiologia [CSIC-INTA], Sbaen); arbenigwr micrometeoroleg ac aerosol Juergen Burkhardt (Prifysgol Bonn, yr Almaen); arbenigwr ar ficro-organebau eithafoffil Olga V. Golyshina (Prifysgol 新香港六合彩开奖结果, y DU); a ffisegydd atmosfferig a gwyddonydd planedau Javier Martín-Torres (Prifysgol Aberdeen, y DU).
Ariannwyd yr ymchwil gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK), Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a'r Weinyddiaeth Wyddoniaeth ac Arloesi.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021