lliwiau rhyfedd yn nhirlun hen mwynfeydd copr

Dyma beth allai'r byd crypto ei ddysgu o'r arian cyfredol oedd yn cael ei dalu i weithwyr yng Nghymru canrifoedd yn 么l

聽Yr erthygl yma gan Dr Edward T Jones a Dr Laurence Jones o Ysgol Busnes 新香港六合彩开奖结果 yw'r erthygl gyntaf i Brifysgol 新香港六合彩开奖结果 ei gyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg ar The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr

Mae'r farchnad cryptoarian wedi gweld nifer o rwystrau diweddar: o gwymp y system聽聽i fethiant un o gyfnewidfeydd crypto mwya'r byd聽.

Oherwydd hyn, a phryderon ynghylch聽, fe gwympodd yr asedau'n llym yn 2022,聽聽(拢1.5 triliwn).

Ond er bod cryptoarian yn aml yn cael sylw, nid syniad newydd yw hwn. Roedd gweithwyr yng Nghymru canrifoedd yn 么l yn aml yn cael eu talu mewn ffyrdd oedd yn wahanol i arian cyffredin. Tocynnau materol oedd yr arian cyfredol hynny, oedd yn cynrychioli ac yn gysylltiedig 芒 gwerth arian go iawn.

Toceiddio yw鈥檙 broses o gynrychioli ased sy鈥檔 bodoli eisoes ar gyfriflyfr drwy gysylltu鈥檙 gwerth economaidd neu鈥檙 hawliau sy鈥檔 deillio o鈥檙 asedau 芒聽. Gall tocynnau o'r fath fod yn ddigidol neu yn faterol.

Mae arian digidol wedi'i gynllunio i weithredu fel cyfrwng cyfnewid fesul聽. Dydy'r dechnoleg ddim yn ddibynnol ar unrhyw awdurdod unigol, fel聽, i gynnal y rhwydwaith. Eto, mae hyn yn debyg i sut y defnyddiwyd tocynnau materol gan gwmn茂au mwyngloddio Cymru.

Argyfwng arian

Tua diwedd y 18fed ganrif, roedd darnau arian Prydain mewn cyflwr truenus oherwydd聽. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, bu ymfudiad o bobl o gefn gwlad i ganolfannau mwyngloddio a gweithgynhyrchu. Roedd byw mewn trefi yn golygu bod angen arian. Ond roedd y gallu i dalu cyflogau yn amhosibl i fusnesau heb newid bach.

Gyda'r mewnlifiad o weithwyr newydd yn defnyddio arian, agorwyd siopau newydd i ateb y galw, gan greu mwy o swyddi a oedd angen cael eu talu mewn darnau arian. Er bod cynhyrchu darnau arian ffug yn anghyfreithlon, ac yn聽, nid oedd yn anghyfreithlon i gynhyrchu tocynnau y gellid eu defnyddio yn lle darnau arian.

Dechreuodd y cyfnod mawr cyntaf o gynhyrchu tocynnau yn ystod y聽聽yn 1787 pan gafodd tocyn聽聽ei gynhyrchu. Roedd y cwmni hwn yn cloddio copr ar Fynydd Parys ar Ynys M么n.

lliwiau rhyfedd yn nhirlun hen mwynfeydd copr
Sut mae Mynydd Parys yn edrych heddiw.

Defnyddiodd y cwmni fwyn copr Parys i gynhyrchu tocynnau y gellid eu cyfnewid am geiniogau swyddogol yn unrhyw un o siopau neu swyddfeydd y cwmni. Cwmni Mwyngloddio Parys oedd y cyntaf yn y byd i ddosbarthu tocynnau. Roedd y tocynnau yn cael eu hystyried fel 鈥溾 yr 18fed ganrif gan arbenigwyr arian y cyfnod.

Yn fuan, roedd bron pob tref ym Mhrydain yn cynhyrchu'r fath docynnau. Cafodd hyn ei ysgogi鈥檔 rhannol gan brinder arian y llywodraeth a gwelliannau mewn gweithgynhyrchu darnau arian gan聽, oedd hefyd yn cynhyrchu tocynnau.

Erbyn troad y 19eg ganrif, mae'n debyg bod cyfanswm cyflenwad a chyflymder cylchrediad y tocynnau, darnau arian tramor ac amnewidion eraill yn fwy na rhai o聽.

Gwelwyd y broses toceiddio mewn gwledydd eraill, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Roedd gwersylloedd mwyngloddio a thorri coed yn y 19eg ganrif fel arfer yn eiddo i un cwmni. Roeddent yn cael eu rhedeg mewn lleoliadau go anghysbell, lle yr oedd y cyfle i gael gafael ar聽聽yn wael.

Byddai'r fath gwmn茂au yn aml yn talu eu gweithwyr mewn 鈥渟grip鈥, hynny yw, tocynnau. Doedd gan y gweithwyr ddim fawr o ddewis ond prynu nwyddau mewn siopau a oedd yn eiddo i'r cwmni. Trwy ychwanegu at bris nwyddau, gallai'r cwmni聽.

 dwy  hanner ceiniog o Fynydd Parys
Tocyn hanner ceiniog gan Gwmni Mwyngloddio Parys o F么n yn 1788. Defnyddiwyd cynllun yn dangos derwydd am flynyddoedd lawer.
Credit:BrandonBigheart for the photograph; Parys Mine Company for the token issue., Public domain, via Wikimedia Commons

Tra bod cynhyrchu tocynnau gan Gwmni Mwyngloddio Parys wedi鈥檌 sbarduno gan y Chwyldro Diwydiannol cyntaf, mae poblogrwydd Bitcoin a chryptoarian arall wedi鈥檌 gyflymu gan y聽.

Er bod mwy na 200 mlynedd rhwng y ddau gyfnod, mae gan brofiad y tocynnau gwreiddiol wersi pwysig ar gyfer cryptoarian heddiw. Yn gyntaf, er mwyn i gryptoarian lwyddo, mae angen ecosystem gref arnynt. Bydd ecosystem effeithiol yn cynnwys dau brif beth 鈥 ffyrdd i unigolion gronni'r crypto/tocynnau, galw a defnydd am y crypto sy'n trwytho 芒 gwerth, ac amgylcheddau lle gellir cyfnewid am nwyddau a gwasanaethau.

Yn ail, er mwyn i cryptoarian fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy yn y tymor hir, rhaid iddynt gynnal eu pwrpas gwreiddiol o gael ecosystem sy'n parhau i fod yn annibynnol o un cwmni neu lywodraeth.

Mae ymdrechion i gloi cryptoarian i un sefydliad yn sicr o fethu. Cymerwch, er enghraifft, fethiant Facebook i聽聽rhai blynyddoedd yn 么l.

Fe fethodd tocynnau cwmn茂au mwyngloddio Cymru pan gaeodd y pyllau, y chwareli neu鈥檙 siopau. Arweiniodd hynny at fethiant un neu fwy o dair cydran allweddol yr ecosystem. Fe gollodd y pobl gyda'r tocynnau eu harian, sy'n wers i ni heddiw.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?