Enillodd The Welshman, rhaglen ddogfen am fywyd Owain Williams, un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru, yn y categori Ffilm Fer.
Cafodd y ffilm ei chreu gan ddau o raddedigion Prifysgol 新香港六合彩开奖结果, y cyfarwyddwr Lindsay Walker a鈥檙 cynhyrchydd Enlli Fychan Owain, sy鈥檔 ferch i Owain Williams.
鈥淩ydw i ar ben fy nigon,鈥 meddai Lindsay Walker. 鈥淎lla i ddim credu bod y Cymro wedi ennill BAFTA! Creuwyd y ffilm yn hollol annibynnol.
鈥淩oedden ni yn erbyn cystadleuaeth o safon uchel gyda chyllidebau llawer mwy y tu 么l iddyn nhw. Creuwyd The Welshman gyda 拢0.鈥
Graddiodd Lindsay Walker gydag MA mewn Gwneud Ffilmiau ym Mhrifysgol 新香港六合彩开奖结果, tra cwblhaodd Enlli Fychan Owain radd mewn Astudiaethau鈥檙 Cyfryngau.
鈥淩ydw i mor ddiolchgar fy mod wedi gallu mynychu ysgol ffilm, yn enwedig yn fy nhref enedigol,鈥 meddai Lindsay Walker.
鈥淩oedd yn fan cychwyn i weithio yn y diwydiant a dysgu sut i fod yn ddyfeisgar.鈥
Roedd Enlli Fychan Owain hefyd yn un o dri a enwebwyd ar gyfer gwobr 鈥楾orri Trwodd鈥 BAFTA Cymru.
Ynghyd 芒 dau arall, cafwyd Owain Williams - sydd bellach yn gynghorydd - yn euog a'i garcharu am blannu dyfais ffrwydrol ger cronfa dd诺r Tryweryn i'r gogledd o'r Bala ym 1963.
Roedd y weithred yn rhan o brotest ar 么l i ddwsinau o bobl gael eu gorfodi i adael eu cartrefi yng Nghapel Celyn pan foddwyd y pentref i greu cronfa dd诺r.
Cafodd y prosiect ganiat芒d cynllunio gan San Steffan er iddo gael ei wrthwynebu gan bob Aelod Seneddol o Gymru.
Dywedodd Lindsay Walker: 鈥淓r bod stori Tryweryn wedi cael ei hadrodd lawer gwaith, mae hon yn ffilm wahanol iawn i鈥檙 gweddill. Mae'n mynd dan y wyneb.
鈥淔e鈥檌 cr毛wyd gyda chriw bach iawn, pob un yn byw yng Nghymru, pob un ag angerdd i adrodd y stori hon yn y modd y mae鈥檔 haeddu cael ei hadrodd.
鈥淩ydyn ni鈥檔 dibynnu at gefnogaeth y gymuned Gymreig er mwyn sicrhau bod y ffilm yn lledaenu mor bell ac agos 芒 phosib.
"Dylai nid yn unig pobl Cymru, ond hefyd rai y tu allan i Gymru, weld y ffilm a鈥檔 helpu ni i ddeall ein hanes ar ein telerau ein hunain.
鈥淢ae ein hanes wedi cael ei gladdu am lawer gormod o amser.鈥
Meddai Dr Dyfrig Jones, pennaeth Adran Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth: "Mae'n newyddion gwych gweld Lyndsay ac Enlli yn gwneud mor anhygoel o dda, ac maen nhw ill dau yn glod i'r Brifysgol. Mae ennill BAFTA nid yn unig yn dyst i'w talent anhygoel, ond hefyd eu hymrwymiad a'u gwaith caled. Rydyn ni i gyd yn hynod falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni. "