Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Dywedodd JRR Tolkien am y Gymraeg: "Welsh is of this soil, this island, the senior language of鈥ritain; and Welsh is beautiful鈥. Wrth i Gymru ddatblygu'n wlad ddwyieithog ddeinamig ni fu erioed amser mwy cyffrous i astudio鈥檙 iaith Geltaidd fwyaf bywiog. Dilynwch stori'r Gymraeg o chwedlau canoloesol y Mabinogi i ddiwylliant amlochrog Cymraeg y Gymru gyfoes. Dyma raglen bedair blynedd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer dechreuwyr a siaradwyr dihyder. Mae'n cynnwys Blwyddyn Sylfaen ddwys sy'n canolbwyntio ar iaith, ac yna cynllun gradd BA tair blynedd cynhwysfawr Cymraeg (llwybr ail-iaith)..
Ar y llwybr hwn, mae鈥檙 addysgu cyfrwng Cymraeg yn cynyddu fesul tipyn wrth i鈥檆h sgiliau ddatblygu, ac mae modiwlau arbennig wedi eu cynllunio i hwyluso 鈥榗roesi鈥檙 bont鈥 o fod yn ddysgwr i fod yn siaradwr mentrus 芒 gradd mewn Cymraeg.
Peidiwch 芒 phoeni os nad oes gennych Lefel A Cymraeg 鈥 rydym bob tro鈥檔 fodlon ystyried cymwysterau eraill, a phrofiadau amgen: mae Cymraeg yn bwnc i fyfyrwyr o bob cefndir. Ac mae鈥檙 cwrs pedair blynedd hwn yn caniat谩u i ddechreuwyr pur astudio gyda ni, hyd yn oed os na fu iddynt siarad gair o Gymraeg erioed.
Mae gwneud gradd mewn Cymraeg yn eich caniat谩u i fwynhau a gwerthfawrogi un o ddiwylliannau llenyddol cyfoethocaf Ewrop 鈥 diwylliant Cymru. Cewch bob cymorth i ymuno鈥檔 llawn ym mywyd Cymraeg y brifysgol a鈥檙 ardal, a chewch ddysgu hefyd am y Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Gofynnwn gwestiynau megis sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg, neu sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i them芒u byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern.听
Pam dewis Prifysgol 新香港六合彩开奖结果 ar gyfer y cwrs?
- Canolfan ac iddi enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
- Astudio yn amgylchedd unigryw Gwynedd (gogledd-orllewin Cymru) lle mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gyntaf i'r mwyafrif.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar 么l cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu 芒 ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd 鈥榞yda Phrofiad Rhyngwladol鈥 yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.听
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o鈥檙 fath, rydych yn gwneud byd o les i鈥檆h gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw鈥檙 Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu 芒 ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o鈥檙 wefan.
Cynnwys y Cwrs
Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dilyn cyrsiau iaith dwys gyda thiwtoriaid proffesiynol o Ganolfan Cymraeg i Oedolion, canolfan 芒 dros 40 mlynedd o brofiad o ddarparu cyrsiau dysgu iaith. Dysgwch hefyd am l锚n, hanes a diwylliant Cymru. Wedyn, cewch dair blynedd yn dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai. Byddwch yn llunio traethodau, amrywiol ymarferion a thasgau wythnosol, ac yn darllen a pharatoi ar gyfer trafodaethau seminar. Mae asesiadau鈥檔 amrywio o waith cwrs i arholiadau. Bydd o leiaf hanner eich modiwlau yn eich ail flwyddyn wedi eu llunio鈥檔 arbennig ar gyfer myfyrwyr o gefndir ail-iaith, er mwyn datblygu sgiliau penodol. Byddwch yn ymuno gyda myfyrwyr iaith gyntaf mewn modiwlau eraill, a threfnir tiwtorialau arbennig i鈥檆h cefnogi. Darperir cefnogaeth iaith ychwanegol hefyd yn y drydedd flwyddyn a鈥檙 bedwaredd.
Ar 么l y Flwyddyn Sylfaen cewch gyfle i adeiladu ar eich profiadau ac i agor drysau newydd: e.e., trafod yr iaith mewn cyd-destunau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檌 hanes a鈥檌 chyflwr heddiw, dysgu sgiliau beirniadol newydd ac ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth. Yn y ddwy flynedd wedyn, cewch ddewis helaeth o fodiwlau: e.e., y nofel Gymraeg; y theatr Gymraeg; barddoniaeth fodern ac awdlau鈥檙 eisteddfod; dram芒u teledu; Dafydd ap Gwilym; y Mabinogion 鈥 neu beth am astudio diwylliant Cymraeg America a hyd yn oed gofyn 鈥淏eth yw Llenyddiaeth?鈥
Mae鈥檙 modiwlau iaith yn ymestyn o rai hanesyddol i rai cymdeithasegol, o鈥檙 cyfle i ddysgu Gwyddeleg neu Lydaweg i fodiwlau sy鈥檔 meithrin sgiliau Cymraeg proffesiynol yn y gweithle a hefyd sgiliau Cymraeg i bwrpasau creadigol.
Yn y flwyddyn olaf, cewch gyfle i ymchwilio鈥檔 ddyfnach i bwnc sydd o ddiddordeb arbennig ichi, a llunio traethawd hir. Yn ddiweddar mae myfyrwyr wedi ysgrifennu traethodau hir ar unigolion fel Dafydd ap Gwilym, Caryl Lewis, Meic Stevens a Geraint Jarman, ac ar feysydd fel ecofeirniadaeth, rhywedd a thrawsrywedd, llenyddiaeth a chaethwasiaeth, agweddau at adfywio ieithyddol, a ph锚l-droed mewn llenyddiaeth.听
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymraeg i Ddechreuwyr BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o鈥檙 archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig 芒'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy鈥檔 cael eu cefnogi gan staff profiadol, i鈥檆h helpu i astudio.听
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy鈥檔 cynnwys:听
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy鈥檔 galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw 拢9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw 拢1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi g诺n (拢25- 拢75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua 拢12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig 芒 modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth 芒 phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 88 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn pwnc Dynaiethau e.e. Saesneg, Hanes, Ffrangeg.听Nid oes angen Lefel A mewn Cymraeg).听Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol (gyda gradd H5 mewn pwnc Dynaiethau)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC:听MMM-DMM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM-DMM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn maes Dynaiethau
- Mynediad mewn pwnc y celfyddydau a'r dyniaethau: Pasio
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd 芒 chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal 芒 chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael 芒鈥檙 ysgol cyfwerth 芒 lefel A/Lefel 3 a/neu diplom芒u colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).听manylion听
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i听.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn pwnc Dynaiethau e.e. Saesneg, Hanes, Ffrangeg.听Nid oes angen Lefel A mewn Cymraeg).听Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol (gyda gradd H5 mewn pwnc Dynaiethau)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC:听MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn maes Dynaiethau
- Mynediad mewn pwnc y celfyddydau a'r dyniaethau: Pasio
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd 芒 chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal 芒 chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael 芒鈥檙 ysgol cyfwerth 芒 lefel A/Lefel 3 a/neu diplom芒u colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).听manylion听
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i听.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae鈥檔 rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr 芒 phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae鈥檔 rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae鈥檙 Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.听
Mae鈥檔 bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd 芒; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr h欧n sy鈥檔 medru dangos fod ganddynt y gallu a鈥檙 ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr h欧n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i听adran Astudio ym Mangor.听听
Gyrfaoedd
Mae myfyrwyr ail-iaith 新香港六合彩开奖结果 wedi mwynhau llwyddiannau mawr yn ddiweddar. Mae nifer fawr wedi ennill graddau dosbarth cyntaf, a rhai wedi ennill gwobrau Prifysgol am eu gwaith (gan gystadlu 芒 myfyrwyr iaith gyntaf). Mae rhai wedi dewis mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llewyrchus lle mae eu sgiliau Cymraeg yn hanfodol; mae eraill wedi penderfynu aros yn y byd academaidd, a gwneud graddau 么l-radd mewn Cymraeg, naill ai yma ym Mangor neu mewn prifysgolion rhyngwladol eraill.
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio鈥檙 Gymraeg ym Mangor. Ni fu ychwaith gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio鈥檙 Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae鈥檙 nod yn glir, wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.听
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd galw mawr am raddedigion hyderus eu Cymraeg. Bydd gradd mewn Cymraeg yn eich cymhwyso cystal ag unrhyw lwybr arall yn y Dyniaethau 鈥 ac yn well na llawer iawn o bynciau eraill. Mae ystadegau cyflogadwyedd yn dangos, flwyddyn ar 么l blwyddyn, fod graddedigion mewn Cymraeg yn llwyddo鈥檔 arbennig i ganfod gwaith cymwys.
Mae鈥檙 gallu i gyfathrebu鈥檔 effeithiol yn y Gymraeg 鈥 ar lafar ac yn ysgrifenedig 鈥 yn sgil hanfodol mewn nifer gynyddol o swyddi, ac nid yw Cymraeg yn bwnc sy鈥檔 cau drysau i swyddi rhyngwladol chwaith.
Mae llwyddiant proffesiynol rhyfeddol ein myfyrwyr ym maes gwaith 鈥 a鈥檜 gyrfaoedd amrywiol 鈥 eisoes yn profi pa mor gwbl berthnasol yw鈥檙 cwrs hwn i ofynion y Gymru gyfoes. Mae cyfran yn cael eu denu i fyd addysg, yn athrawon cynradd ac uwchradd, yn brifathrawon, yn swyddogion addysg ac yn gyfarwyddwyr addysg. Aiff eraill i fyd addysg bellach ac i fod yn ddarlithwyr mewn prifysgolion. Mae dysgu Cymraeg i oedolion hefyd yn faes allweddol. Mae鈥檙 byd teledu a鈥檙 cyfryngau digidol a phrint 鈥 gan gynnwys canolfan y BBC ym Mangor 鈥 yn cynnig trawstoriad o swyddi diddorol, a denwyd cyn-fyfyrwyr eraill at faes cyhoeddi llyfrau, ysgrifennu creadigol a sgriptio teledu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae鈥檙 galw yn parhau hefyd am weinyddwyr a swyddogion dwyieithog ar gyfer llywodraeth leol. 听听
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i鈥檆h helpu i gyflawni eich amcanion ar 么l graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd 新香港六合彩开奖结果 (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd 新香港六合彩开奖结果 yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn 么l eich cyflymder eich hun, gan fynd 芒 chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol 新香港六合彩开奖结果
Mae Prifysgol 新香港六合彩开奖结果 yn cynnal cynllun interniaeth 芒 th芒l yn adrannau academaidd a gwasanaethau鈥檙 Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy鈥檔 graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae鈥檙 adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o鈥檙 sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.