Delwedd o dabled yn arddangos siartiau bar a graffiau

Busnes, Rheolaeth a Marchnata

Darganfyddwch ein Cyrsiau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Dod o hyd i gwrs

Myfyrwyr yn sgwrsio tu allan i Pontio

YSGOL BUSNES BANGOR YN LLWYDDIANNUS YN AROLWG PTES 2023

Gwelodd Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Hyfforddedig (PTES) 2023 diweddar Ysgol Busnes ÐÂÏã¸ÛÁùºÏ²Ê¿ª½±½á¹û ganlyniadau rhagorol. Roedd Busnes a Rheolaeth yn 3ydd (allan o 85) ar gyfer y mesur Cyffredinol ac yn 4ydd (allan o 84) ar gyfer y mesur Addysgu. Daeth cefnogaeth i fyfyrwyr hefyd i'r amlwg gyda'r ysgol yn dod yn 4ydd (allan o 71) ar gyfer y mesur cefnogaeth.

Pam Astudio Busnes, Rheolaeth a Marchnata?

Mae ein graddau ôl-radd yn amrywio o raglenni eang a chynhwysfawr i raglenni arbenigol iawn, yn cynnwys pynciau fel Marchnata Digidol, Strategaeth, Rheoli Pobl, Marchnata, Cyllid, Gweinyddu Busnes, Marchnata Strategol, Dadansoddeg Data a sefydlu Mentrau Busnes Newydd.

Er mwyn llwyddo yn yr amgylchedd rheoli heddiw, mae angen i chi ddeall ac ymateb i oblygiadau newidiadau gweithredol, strategol a sefydliadol, yn ogystal â gallu rheoli ac ysgogi pobl.

Bydd y rhaglenni hyn yn eich helpu i gysylltu theori ac ymarfer sy'n berthnasol i sefydliadau heddiw, gan roi'r dulliau personol i chi greu, gweithredu a datblygu'r polisïau rheoli mwyaf effeithiol. Byddwch yn cael sylfaen gadarn ar draws yr holl brif ddisgyblaethau busnes, a hefyd yn cael cyfle i addasu'ch cwrs fel ei fod yn gysylltiedig â'ch meysydd diddordeb penodol gyda modiwlau sy'n cwmpasu popeth o'r strategol ac ariannol, i gynaliadwyedd, arloesi, rheoli gwybodaeth, arwain pobl a rheoli newid.

Mae gan lawer o'n tiwtoriaid brofiad diwydiannol byd-eang sylweddol ac mae eraill yn ymchwilwyr cynhyrchiol ym myd busnes, rheolaeth a marchnata. Mae'r cyfuniad hwn o ymchwil ac addysgu dan arweiniad ymarferwyr yn golygu y gallwch edrych ymlaen at addysgu deallus a diddorol a fydd yn eich helpu i fynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf.

Mae llawer o'n cyrsiau yn cynnig y dewis i ddechrau ym mis Ionawr yn ogystal â'r cyfnod dechrau traddodiadol ym mis Medi.

Elain Davies smiling to camera

Elain Haf Davies

Roedd fy mhrofiad ym Mhrifysgol ÐÂÏã¸ÛÁùºÏ²Ê¿ª½±½á¹û yn hynod gadarnhaol ac mi gefais nifer o gyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol dros bedair blynedd o astudio. Cefnogodd y Brifysgol fy nhwf personol yn ddirfawr trwy roi cyfleoedd imi ddatblygu fy hunanhyder, gwella fy sgiliau meddwl beirniadol ac annog meithrin perthnasoedd ystyrlon gyda myfyrwyr a busnesau eraill y bûm yn gweithio â nhw.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Busnes, Rheolaeth a Marchnata

Mae ein holl gyrsiau Busnes, Rheolaeth a Marchnata wedi eu cynllunio i wella'ch sgiliau proffesiynol, eich paratoi ar gyfer gwaith a'ch helpu chi i ddatblygu'r priodoleddau sydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus mewn nifer o wahanol yrfaoedd.

Mae graddedigion diweddar ein rhaglenni Meistr Busnes a Rheoli wedi mynd ymlaen i amrywiaeth helaeth o swyddi ledled y byd yn y sector preifat, sector cyhoeddus a'r llywodraeth fel ymgynghorwyr, rheolwyr, ymchwilwyr marchnad, dadansoddwyr, swyddogion gweithredol gweithgynhyrchu, rheolwyr brand, marchnatwyr, ymgynghorwyr, ymgynghorwyr gwerthu a swyddogion gweithredol project.

Ym maes Marchnata, mae natur y gwaith yn newid, nid yw dulliau traddodiadol yn unig yn ddigon i ddenu defnyddwyr modern yn y byd digidol. Mae ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol heddiw yn gofyn am strategaethau rhyngddisgyblaethol a dealltwriaeth ddyfnach o anghenion a dymuniadau cwsmeriaid. Mae nifer o'n myfyrwyr Marchnata wedi cael swyddi fel rheolwyr cyfryngau cymdeithasol, rheolwyr cynnyrch, rheolwyr brand, arbenigwyr optimeiddio peiriannau chwilio, ysgrifenwyr cynnwys gwe a dadansoddwyr marchnata.

Ein Hymchwil o fewn Busnes, Rheolaeth a Marchnata

Mae gan lawer o'n tiwtoriaid brofiad diwydiannol byd-eang sylweddol ac mae eraill yn ymchwilwyr cynhyrchiol ym myd Busnes, Rheolaeth a Marchnata. Maent i gyd yn llywio ein haddysgu o ansawdd uchel. Mae ein hymchwil yn ymdrin â maes eang gan gynnwys ymchwilio i ddealltwriaeth o ddefnyddwyr mewn gwahanol gyd-destunau a diwylliannau, ymchwilio i effaith strategaethau busnes a llywodraeth yn bennaf yn y maes cyfathrebu. Mae ein hymchwil yn ceisio deall sut mae canfyddiadau a barn defnyddwyr yn cael eu ffurfio a sut mae'r rhain yn dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau ar draws gyd-destunau amrywiol. Mae ein ffocws ymchwil yn cwmpasu cyd-destunau er elw a ddim er elw yn ogystal â chefnogi astudiaethau trawsddiwylliannol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?