Digwyddiadau Archifau a'r Casgliadau Arbennig

Mae鈥檙 Archifau a鈥檙 Casgliadau Arbennig yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o鈥檔 casgliadau.

  • Mae arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus a dyddiau agored yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.听
  • Rydym yn cynnal sesiynau cynefino i fyfyrwyr a staff ac yn cynnig y cyfle i gymdeithasau lleol ac ysgolion ddarganfod mwy am ein casgliadau.听

Byddwn hefyd yn cymeryd rhan yn flynyddol yn y digwyddiadau cenedlaethol 鈥淎rchwiliwch eich Archif鈥.

Bydd ein digwyddiadau oll yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ac ar y cyfryngau cymdeithasol 鈥 Facebook ac X

听听听

Arddangosfa'r Archifau a Chasgliadau Arbennig 2024

DATHLU'R 140

Agorodd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ar 18 Hydref, 1884. Gyda鈥檙
digwyddiad hwn gwireddwyd gobeithion a dyheadau llawer ers dyddiau Owain Glynd诺r
am Brifysgol yng ngogledd Cymru. Gyda phum deg wyth o fyfyrwyr, dyma ddechrau'r
daith i un o sefydliadau pwysig yr ardal. Heddiw, mae ymhell dros 11,000 o fyfyrwyr yma
o bob cwr o鈥檙 byd yn elwa o鈥檙 traddodiad Cymreig cryf sy鈥檔 credu yng ngwerth addysg i
bawb.

Yn yr arddangosfa hon cawn gipolwg ar hanes cyfoethog y Brifysgol am y 140 mlynedd
ddiwethaf. O'r nifer fawr o ddeunyddiau sydd gan Archifau'r Brifysgol ei hun, cafwyd
detholiad o enghreifftiau cynrychioliadol, ac sy鈥檔 dwyn atgofion i鈥檙 cof, i ddarlunio bywyd
a gwaith myfyrwyr a staff ddoe a heddiw.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?